Kirjahaku
Etsi kirjoja tekijän nimen, kirjan nimen tai ISBN:n perusteella.
2 kirjaa tekijältä Gwen Parrott
Nofel am lofruddiaeth wedi'i gosod yn y cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Dela Arthur yw prifathrawes ysgol gynradd pentref bach Nant yr Eithin; mae'n dipyn o haden a hi yw ditectif y nofel. Mae'r stori'n dechrau ar ddiwrnod trip plant hynaf yr ysgol. Yn y bennod gyntaf, mae'r bws ysgol wedi mynd i ffos ddofn gan beryglu bywydau pawb. Wrth i'r plant adael y bws a mynd i chwarae ar y garnedd daw ffermwr blin gynddeiriog gyda gwn i fywgth Dela. Ar ben popeth gwelir bod corff wedi dod i'r fei. Ond corff pwy? A beth yw'r aur yn y pridd?