Kirjojen hintavertailu. Mukana 11 244 527 kirjaa ja 12 kauppaa.

Kirjahaku

Etsi kirjoja tekijän nimen, kirjan nimen tai ISBN:n perusteella.

6 kirjaa tekijältä Saunders Lewis

Williams Pantycelyn

Williams Pantycelyn

Saunders Lewis

University of Wales Press
2016
sidottu
Un o gyfrolau mwyaf dadleuol yr ugeinfed ganrif yw Williams Pantycelyn gan Saunders Lewis, ac ymhlith yr astudiaethau beirniadol mwyaf cynhyrfus i ymddangos erioed yn y Gymraeg. Cynigiodd y gyfrol ffordd newydd i ddehongli athrylith yr emynydd o Bantycelyn, a thrwy hynny sefydlu enw Saunders Lewis fel beirniad mwyaf beiddgar a chreadigol ei genhedlaeth. Er mwyn nodi trichanmlwyddiant geni'r emynydd yn 2017, mae Gwasg Prifysgol Cymru yn ailgyhoeddi'r gyfrol; mewn rhagymadrodd helaeth i'r cyhoeddiad newydd, mae D. Densil Morgan yn dadansoddi cynnwys y gwaith, ei dafoli'n feirniadol ac yn olrhain ei ddylanwad ar y meddwl Cymreig o'i gyhoeddi yn 1927 hyd heddiw. Mae'n ddathliad deublyg o greadigrwydd Saunders Lewis ac o gyfraniad aruthrol y Per Ganiedydd i waddol y diwylliant cenedlaethol.
Siwan a Cherddi Eraill

Siwan a Cherddi Eraill

Saunders Lewis

Atebol Cyfyngedig
2020
sidottu
Argraffiad newydd 2020 gan Atebol o gyfrol enwog Saunders Lewis, Siwan a Cherddi Eraill, a gyhoeddwyd yn flaenorol gan Wasg Dinefwr. Mae'r gyfrol yn cynnwys y ddrama fydryddol Siwan (1954), sy'n portreadu perthynas Siwan â Llywelyn Fawr, a'i charwriaeth gyda Gwilym Brewys. Ceir hefyd 14 o gerddi prin y bardd a'r dramodydd.